Job 3
Beibl William Morgan
3 Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd. 2 A Job a lefarodd, ac a ddywedodd, 3 Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo, a’r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw. 4 Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a Duw oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno. 5 Tywyllwch a chysgod marwolaeth a’i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a’i dychryno. 6 Y nos honno, tywyllwch a’i cymero; na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd. 7 Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi. 8 A’r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a’i melltithio hi. 9 A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd: 10 Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid. 11 Paham na bûm farw o’r bru? na threngais pan ddeuthum allan o’r groth? 12 Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno? 13 Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi. 14 Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd; 15 Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian; 16 Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni. 17 Yno yr annuwiolion a beidiant â’u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig. 18 Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; ni chlywant lais y gorthrymydd. 19 Bychan a mawr sydd yno; a’r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr. 20 Paham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i’r gofidus ei enaid? 21 Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig? 22 Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd? 23 Paham y rhoddir goleuni i’r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd Duw arno? 24 Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd. 25 Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi. 26 Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.